Lleoliad:
Virtual
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Medi 2023
Amser:
09.02 -
09.33
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaethau y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:
Nododd y Llywydd y byddai'r datganiad ar y Diwydiant Dur yn debygol o ennyn cryn ddiddordeb gan yr Aelodau ac nad oedd yr amseru dangosol yn debygol o fod yn ddigonol. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried ymestyn yr amseru gyda Gweinidog yr Economi.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.
Dydd Mercher
Diolchodd y Trefnydd i'r Rheolwyr Busnes am gytuno i ail-drefnu dadleuon y gwrthbleidiau yr wythnos hon er mwyn hwyluso'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf.
Dydd Mawrth 26 Medi 2023 -
Dydd Mawrth 3 Hydref 2023 -
Gofynnodd Heledd Fychan eto am ddiweddariad llafar ar newidiadau posibl i Gyllideb 2023-24. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar yn ystod yr wythnosau nesaf.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 27 Medi -
Dydd Mercher 11 Hydref 2023 –
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu ar 27 Medi:
Rhys ab Owen
NNDM8274
Mae’r Senedd hon:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin genedlaethol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru.
4 Deddfwriaeth
4.1 Amserlen ar gyfer y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Amserlen ar gyfer y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i esbonio ei fod yn bwriadu cyfeirio'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) at y Pwyllgor i graffu ar egwyddorion cyffredinol, a gofyn am farn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y pwynt hwnnw ac ar yr amserlen arfaethedig. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i anfon copi o'r llythyr at y Pwyllgor Biliau Diwygio i roi cyfle iddo wneud unrhyw sylwadau y mae'n dymuno eu gwneud mewn perthynas â chyfrifoldeb dros graffu ar y Bil.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25
5.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor Busnes gynnig gan y Trefnydd i addasu'r amserlen ar gyfer Cyllideb 2024-25 a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid ar y cynigion diwygiedig a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6 Y Rheolau Sefydlog
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a bodlonrwydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad â'r diwygiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog.
6.2 Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau statudol ar ôl gadael yr UE
Trafododd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft yn cynnwys newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn ymwneud â gwneud offerynnau statudol ar ôl gadael yr UE a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor y bydd cynnig i'r Senedd gytuno ar y newidiadau arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'w drafod ddydd Mercher 27 Medi.